Croeso

 

 

Tom JonesAr y 6ed o Ebrill daeth deddf newydd Dynladdiad Corfforaethol 2007 (Corporate Manslaughter Act 2007) i rym.

 


Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i erlyn cwmnioedd a busnesau am droseddau yn erbyn rheolau Iechyd a Diogelwch.

 


Bydd hyn hefyd yn cynnwys damweiniau ffordd ble mae gyrrwyr yn gweithio ar y pryd.

 


Hyny yw, os bydd rhywun yn gyrru cerbyd yn rhinwedd ei waith, fel rhywun o’r BBC er engraifft yn gyrru o Fangor i Gaerdydd, ac yn cael damwain erchyll ble mae rhywun yn cael ei ladd, bydd yn bosib erlyn y cwmni os ydynt ddim wedi dilyn polisiau diogelwch. Mae tua 3,500 o fobol yn cael ei lladd ar ein ffyrdd bob blwyddyn, a thua 50% o rhain, o leiaf, yn gweithio ar y pryd.

 

Mae rhan fwyaf o gwmniau a busnesau gyda polisi iechyd a diogelwch ble mae ‘slips & trips’, ‘falls from heights’, ‘gweithio gyda asbestos’ ayyb, ond mae canran uchel o gwmniau heb bolisi diogelwch sydd yn ymwneud a’i gyrwyr sydd ar y ffordd bob dydd. A ble mae mwy o fobol yn cael ei lladd ar y ffordd yn ystod ei oriau gwaith na phob damwain weithle eraill i gyd hefo’i gilydd, bydd y deddfwriaeth yma yn cael effaith bwysig ar sut mae cymdeithasau yn rhedeg ei busnes.
Ynghlwm yn hyn mae rhanau o ddeddf newydd y Road Traffic Act 2006 yn dod i rym yn fuan hefyd. Pan fyddai rhywun ar fai mewn damwain erchyll y drosedd fyddai ‘achosi marwolaeth drwy yru’n beryglus (causing death by dangerous driving). Ond o dan y ddeddf newydd yma mae troseddau o achosi marwolaeth drwy yru yn ddiofal (causing death by careless driving) ac achosi marwolaeth pan yn gyru heb yswiriant (causing death whilst driving uninsured) yn dod i rym. Mae’r troseddau yma yn llawer haws i’w herlyn na’r drosedd o achosi marwolaeth drwy yru’n beryglus. Bydd hyn yn meddwl fod mwy o yrwyr yn cael ei dedfrwyo am achosi marwolaeth pan yn gyrru.

 

Bydd yr Heddlu, awdurdod Iechyd a Diogelwch (HSE), a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn gweithio mewn pardneriaeth pan yn ymchwilio i mewn i ddameiniau erchyll, ac os bydd amgylchiad ble mae un o’r gyrwyr yn gweithio ar y pryd byddant yn edrych i mewn i brosesau a pholisiau y cyflogwr. Os dangosir yr archwiliad fod gwenidi neu fai ar y cwmni byddant yn ei herlid o dan y ddeddf newydd yma o Ddynladdiad Corrfforaethol.
Bydd dirwyon anghyfyngedig yn dilyn erlyniad llwyddianus o dan y ddeddf hon. Gellir hyn roi cwmniau bach allan o fusnes dros nos.

 

Mae angen i gwmnioedd ddeall yn union beth yw ei cyfrifoldebau o dan ddiogelwch y ffyrdd sydd yn berthnasol a gweithio (work related road safety) a risg gweithle ar y ffordd (occupational road risk).

 

 

Mae Tom Jones, ein ymgynghorydd, ar gael i roi cyflwyniad i gwmniau a chymdeithasau led led Cymru ar y testun. Gellir hyn eich cynorthwyo i ddeal beth yw gofynion eich cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch, ac hefyd esbonio sut y byddai yr Heddlu yn ymchwilio i mewn i wrthdrawiad angheuol sydd yn ymwneud a rhywun yn ei waith.

 

"...Government research shows that around 200 fatalities and serious injuries involving somebody at work occur on our roads every week. Our message to drivers is that good driving is also safe driving, and employers must take responsibility for managing the safety of their staff when out on the road."

Dr Stephen Ladyman, Transport Minister
March 2007

 

RylandDesigns.net